Pe buasai fil o fydoedd Yn cael eu prynu 'nghyd, A'r cyfryw bris, buasent Yn llawer iawn rhy ddrud: 'Does angel fyth, na seraph, Na cherub o un rhyw, I'r filfed ran all ddwedyd Mor werthfawr gwaed fy Nuw. Mae tân o fewn i fynwes Myrddiynau pur y nef, Rhyw newydd fflam wrth feddwl Am werth ei angeu ef, Yn attal eu caniadau Wrth synu oll yn un, I wel'd eu Duw yn dioddef A marw yn natur dyn. O! na allwn innau'r awrhon Ehedeg fyny fry, A dysgu rhyw ganiadau Sydd gan y nefol lu, Fel byddai cydsain hyfryd Rhwng dae'r a nef yn un; Caniadau anfeidroldeb Marwolaeth Duw yn ddyn. Am angeu'r groes bydd canu I dragwyddoldeb maith; Ond im gael teimlo'i rinwedd, 'Rwyf bron ar ben fy nhaith; Fy nefoedd yw ei deimlo, A'i deimlo'n union sydd Yn troi pob rhyw dywyllwch O'm mewn yn oleu ddydd.William Williams 1717-91
Tonau [7676D]: gwelir: Rhan I/II - Pwy ddyry im falm o Gilead? Rhan II/III - Anfeidrol fyth anfeidrol Rhan III/IV - Gwell ganddo na halogi Rhan IV/V - Mae'r fath feddyliau mawrion Fe gododd Haul Cyfiawnder O enw ardderchocaf |
If there had been thousands of worlds Getting redeemed together, With the whole price, they would have been Very much too costly: There is no angel ever, nor seraph, Nor cherub of any kind, For the thousandth part to be able to be told How valuable the blood of my God. There is a fire within the breast Of myriads of pure ones of heaven, Some new flame on thinking About the worth of his death, Stopping their songs While surprising all as one, To see their God suffering And dying in the nature of man. O that I too could now Fly up above, And learn some songs Which the heavenly host have, Thus there would be a delightful chorus Between earth and heaven as one; Songs of the immeasurability Of the death of God as man. About the death of the cross there will be singing For a vast eternity; But for me to get to feel its virtue, I am almost at the end of my journey; My heaven is to feel it, And to feel directly that which is Turning every kind of darkness Within me into the light of day.tr. 2016 Richard B Gillion |
|